Nenfwd Neuadd Fawr Great Hall Ceiling

Nodweddion o Neuadd y Dref

Y Canon

Cafodd ‘y canon Rwsiaidd’, a gyflwynwyd i’r dref ym 1857 er cof am aberth milwyr Aberteifi yn Rhyfel y Crimea, ei osod yn ei le o’r diwedd ym 1871. Defnyddiwyd y gwn ym Mrwydr y ‘Light Brigade’, yn ystod cyrch enwog Balaclava.

Tŵr y Cloc

1890-2. Pan urddwyd ef yn faer ym 1890, cynigiodd David Davies, Tafarn y Ship, masnachwr gwin a gwirodydd, gloc i’r dref (cloc y daethpwyd i’w adnabod fel y ‘Whiskey Clock’).  Adeiladwyd y cloc dros fynedfa’r cowlas – blocyn o waith maen gyda phlac coffaol; roedd yr ochrau uchaf yn goleddfu tuag i mewn ac wedi’u gorchuddio â llechi; oddi tanynt ceir llwyfan cloc sgwâr wedi’i wisgo â metel ac iddo bedwar wyneb cloc a meindwr petryal metel ar ei frig.  Ar y copa gwelir ceiliog gwynt rhwyllog gyda’r llong a’r castell sy’n rhan o selnod y dref.  Cynlluniwyd y tŵr gan Richard Thomas o Aberteifi, ac fe’i adeiladwyd gan John Evans, saer maen o Aberteifi a J. Richards, saer, o Landudoch.  Pedair troedfedd o led yw maint wynebau’r cloc, maent wedi’u gwneud o haearn gyda bysedd copr a gwydr didraidd, a golau nwy oedd yn eu goleuo ar y cychwyn.

Yr Ugeinfed Ganrif >>