Mae'r ffotograff cynharaf o'r Neuadd y Dref (1860's?) Cyn dyddio lleoliad y canon o flaen yr adeilad(1871)

Problemau Adeileddol Cynnar

Ym 1865, bum mlynedd yn unig ar ôl cwblhau’r adeilad, cafwyd problem adeileddol ddifrifol gyda’r simnai fawr ar ochr yr adain draws. Yn ôl pob tebyg, roedd wedi’i chorbelu allan yn wreiddiol, fel y dengys yr ysgythriad uchod, a’i hail-adeiladu ar ben y mur fel y gwelir yn y ffotograffau cynnar; gweler isod. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys clymau haearn drwy’r rhes er mwyn cryfhau’r adain hon.
y cysylltiadau haearn bwrw gyda'r pedwar yn llais benywaidd (1875)
Y ffotograff cynharaf o Neuadd y Dref y gwyddom amdano (1860au?) cyn cyfnod:

  • gosod y canon o flaen yr adeilad (1871)
  • y clymau haearn bwrw ac arnynt gerfluniau o ben pedair gwraig (1875)
  • tŵr y cloc (1892)

Ym 1874, gwelwyd bod muriau blaen y prif neuadd yn bolio, ac fe argymhellodd William Woodward, asiant i ystâd y Priordy a rheolwr Gwaith Briciau Aberteifi, y dylid defnyddio clymau haearn, ac fe aeth ati i osod y rhain yn eu lle ym 1875. Yn ôl y sôn, aelod o deulu’r Miles fu’n gyfrifol am gynllunio’r pedwar haenell addurnol iawn a wnaed o haearn bwrw ac arnynt gerfluniau o bennau merched.

(Tybir fod y pedwar pen, a adferwyd yn 2010, yn cynrychioli aelodau o deulu’r Miles).

Nodweddion Neuadd y Dref >>