Yr Ugeinfed Ganrif

1939-1966

Ym 1950, symudodd y llyfrgell i’r gyfnewidfa ŷd, lle’r arhosodd hyd 1994.  Roedd dymchwel y cyfadeilad cyfan neu rannau ohono yn cael ei gynnig yn rheolaidd ar ôl 1945; gan Dan Williams, hanesydd lleol, ym 1946, gan y Siambr Fasnach ym 1952, ar gyfer creu ‘maes parcio’, ac yna unwaith eto ym 1963.  Dilynwyd y cynnig hwnnw gan gynllun i adeiladu cyfadeilad siopa modern a marchnad oddi mewn i furiau allanol y farchnad, gyda bloc o swyddfeydd gwydr, dau lawr, ar stilts ar yr llawr uchaf.  Cafodd y cynnig hwn dderbyniad da gan Gyngor y Dref a’r wasg leol, ond ni symudwyd ymlaen â’r cynnig, efallai am i’r datblygwyr dynnu nôl.

Cynllun Neuadd y Dref Aberteifi

Defnyddio’r Adeilad – Canolfan Ddinesig ar raddfa fach

Mae’r adroddiad yn The Building News (1859) yn dangos cyfadeilad mor rhyfeddol oedd yn cael ei godi yn Aberteifi.  Roedd hon yn ganolfan ddinesig ar raddfa fach, ac yn llawer mwy na’r neuadd arferol uwchben marchnad, oedd yn gyffredin yn y cyfnod.

Neuadd y Dref Aberteifi Cynllun Street

Ar y llawr gwaelod roedd y Ramadeg Ysgol am Ddim (nawr yn yr Ystafell Radley erbyn hyn, sef ystafell gyfarfod gymunedol ac oedfan ar gyfer digwyddiadau), ynghyd â’i chasgliad o lyfrau, y Llyfrgell Ddiwinyddol (Divinity Library), (y Gegin erbyn hyn) – y prifathro oedd y llyfrgellydd anrhydeddus.  Mae drws a oedd gynt yn fynedfa i’r ysgol i’w weld hyd heddiw yn College Row, gyferbyn â’r siop offer pysgota, gyda ‘Cardigan Grammar School 1858’ wedi’i ysgythru yn y garreg [bath stone] uwchben.  Ar un adeg roedd grisiau cerrig yn arwain i’r ardal sydd heddiw’n Brif Gyntedd.

Yr Ystafelloedd >>