Neuadd y Dref Aberteifi a'r Farchnad, Y Adeilad Newyddion Medi 1859

Neuadd y Dref ~ Crynodeb o’i Hanes

Mae tipyn o gyfaredd yn perthyn i hanes Neuadd y Dref a Neuadd y Farchnad yn Aberteifi, o safbwynt pensaernïol yn ogystal â hanes cymdeithasol.  Byddai’r adeiladau hyn, a gomisiynwyd ym 1856, wedi cael eu hystyried yn rhai modern iawn a hollol feiddgar ar y pryd.  Hwn oedd yr adeilad dinesig cyntaf ym Mhrydain yn yr arddull ‘Gothig modern’ – arddull yr oedd John Ruskin yn ei hyrwyddo yn ei gyfrol ‘The Stones of Venice’ rhwng 1851-3, ac roedd yn cynnwys dylanwad Arabaidd sydd i’w weld yn amlwg yn yr addurn bwa yn y naill adeilad a’r llall.  Adlewyrchir y diddordeb cenedlaethol oedd yn cael ei ddangos yn y cynllun ar y pryd gan y darlun eglurhaol a ymddangosodd yn The Building News ym 1859 (gweler isod) ac mae arbenigwyr mewn pensaernïaeth Oes Fictoria yn dal i’w nodi fel eithriad anghyffredin yng nghyd-destun adeiladau cyhoeddus Gothig.

Neuadd y Dref a Marchnad Aberteifi, The Building News, Medi 1859

Nid oedd y cynllun gwreiddiol yn cynnwys tŵr y cloc, a ychwanegwyd yn ddiweddarach.  Cafodd y simnai ar y chwith ei dymchwel yn ymhen amser.

Y Safle >>>